Gofod affin

Isofod fector yw plane gwyrdd, isod; nid yw hyn yn wir am y plân glas, uchod. I unrhyw ddau fector rydym yn canfod . Fodd bynnag, mae yn enghraifft o ofod affin. Mae'r gwahaniaeth rhwng y ddwy elfen yn gorwedd ar ac yn cynnwys fector dadleoliad (a displacement vector).
Segmentau o linellau ar ofod affin 2-ddimensiwn.

Mewn mathemateg, mae gofod affin yn strwythur geometrig sy'n cyffredinoli rhai o nodweddion gofod Euclidaidd yn y fath fodd fel bod y rhain yn annibynnol ar y cysyniadau o bellter ac onglau, gan gadw yn unig y noweddion hynny sy'n perthyn i linellau cyflin a chymhareb hyd segmentau o linellau cyflin.

Mewn gofod affin, ni cheir unrhyw bwynt neilltuol, arbennig y gellir ei alw'n darddiad (neu'n darddbwynt). Oherwydd hyn, nid oes gan unrhyw fector chwaith darddbwynt sefydlog ac ni ellir cysylltu unrhyw fector (mewn modd unigryw) ag unrhyw bwynt. Yn hytrach, mewn gofod affin, ceir fectorau dadleoli, a elwir hefyd yn "fectorau trawsfudol" (translation vectors), neu'n syml: trawsfudiad rhwng dau bwynt yn y gofod. Felly, mae'n gwneud synnwyr i dynnu dau bwynt o'r gofod, gan roi fector trawsfudol, ond nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr i adio dau bwynt. Mae hefyd yn gwneud synnwyr i adio fector trawsfudol i bwynt mewn gofod affin.

Diffinnir gofod affin fel dimensiwn gofod fector ei drawsfudiad. Mae gofod affin un dimensiwn yn llinell affin. Mae gofod affin gyda dimensiwn o 2 yn blân affin. Mae is-ofod affin o n-ddimensiwn mewn gofod affin neu mewn gofod fector, o n-ddimensiwn, yn uwch-blân (hyperplane).


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy